recent posts
Tags cloud

Colofn Gyngor mis Hydref: prynu cerbyd
Dwi angen prynu car ail-law, ond dwi’n poeni am wneud y dewis iawn. Dwi wedi clywed am bobl sydd wedi prynu ceir â diffygion cudd a gostiodd lawer o arian iddyn nhw eu trwsio ac a oedd weithiau’n anniogel. Sut alla i wneud yn siŵr fy mod i’n prynu’r car cywir, o’r lle cywir?
Mae prynu car ail-law yn benderfyniad mawr, felly rwy’n deall pam rydych chi’n poeni, yn enwedig ar ôl clywed am bethau sydd wedi mynd o chwith gan achosi problemau ofnadwy.
Mae camau y gallwch eu cymryd i osgoi prynu car sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, sy’n debygol o dorri i lawr, sydd wedi’i ddwyn neu sydd wedi’i addasu’n anghyfreithlon. Mae’r rhain yn cynnwys gwiriadau priodol a all arbed amser ac arian i chi yn y tymor hir. Yn bwysicaf oll, peidiwch â rhuthro’r broses. Mae nifer o fesurau ar waith i’ch cadw’n ddiogel ac i’ch diogelu.
Mae’n well prynu gan fasnachwr (‘trader’) – busnes sy’n gwerthu ceir – na chan werthwr preifat neu mewn arwerthiant. Mae gennych fwy o hawliau cyfreithiol pan fyddwch yn prynu gan werthwr ceir, felly’r cam cyntaf yw sicrhau bod y busnes wedi hen ennill ei blwyf a bod ganddo enw da ac adolygiadau da.
Gallwch wirio a yw’r busnes wedi’i achredu gan yr Ombwdsmon Moduron – mae’r ombwdsmon yn gorfodi ei godau ymarfer ac yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfodau amgen os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Efallai fod y busnes hefyd yn aelod o gymdeithas fasnach, felly gallwch wirio a yw’r gymdeithas yn cynnig unrhyw gymorth.
Nesaf, dylech chi wirio hanes y car drwy ofyn i’r gwerthwr am wneuthuriad a model y car, ei rif cofrestru, rhif ei brawf MOT a’r milltiroedd y mae wedi’u teithio. Defnyddiwch wiriwr gwybodaeth cerbydau ar-lein am ddim y DVLA i wneud yn siŵr bod y manylion hyn yn cyd-fynd â chofnodion y DVLA. Os ydych chi’n amau bod y gwerthwr wedi rhoi manylion ffug i chi, mae’n well peidio â phrynu’r car.
Ar ôl hyn, dylech wirio hanes profion MOT y car ar wefan y llywodraeth. Mae’n rhad ac am ddim ac yn caniatáu ichi weld a yw profion MOT wedi’u cynnal yn rheolaidd drwy gydol hanes y car.
Bydd gwiriad hanes car gan ddarparwr preifat, sy’n costio hyd at £20, yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi am y car, er enghraifft a yw wedi cael ei gofnodi fel car sydd wedi’i ddwyn, a yw wedi bod mewn damwain ddifrifol, neu a yw wedi cael ei ddatgan yn golled lwyr cyn cael ei atgyweirio a’i roi yn ôl ar y ffordd. Bydd hefyd yn dweud wrthych a yw nifer y milltiroedd ar odomedr y car yn gywir.
Yn olaf, archwiliwch y car eich hun, yng ngolau dydd a phan fydd y tywydd yn sych. Dylech fynd â’r car am reid – bydd angen i chi sicrhau bod gennych yswiriant ar gyfer gwneud hynny. Os dewiswch brynu gan werthwr preifat, mae’n well archwilio’r car yng nghartref y gwerthwr, fel bod gennych gofnod o’i gyfeiriad os bydd unrhyw beth yn mynd o’i le. Ewch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo gyda chi hefyd.
Mae gan Gyngor ar Bopeth lawer o wybodaeth ar-lein am brynu car ail-law, gan gynnwys canllawiau ar ffyrdd o dalu. Mae’r elusen hefyd yn cynnig canllawiau ar beth i’w wneud os oes problem gyda char ail-law rydych eisoes wedi’i brynu.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, gallwch ffonio Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, neu sgwrsio â chynghorydd ar-lein.

