Hoffech chi Wirfoddoli gyda ni?
Fel gwirfoddolwr yn Cyngor ar Bopeth Conwy Gwynedd, mi fyddwch chi'n ymuno â gwasanaeth Cyngor ar Bopeth sy'n rhwydwaith o tua 245 o ganolfannau Cyngor ar Bopeth lleol ledled Cymru a Lloegr.
Nod Cyngor ar Bopeth yw:
- • darparu'r cyngor sydd ei angen ar bobl ar gyfer y problemau maen nhw'n eu hwynebu o ddydd i ddydd
- • gwella'r polisïau a'r arferion sy'n effeithio ar fywydau pobl
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ganolog i wasanaeth Cyngor ar Bopeth ers i'r 200 o ganolfannau Cyngor ar Bopeth lleol cyntaf agor yn 1939.
Heddiw, mae gan wasanaeth Cyngor ar Bopeth 16,000 o wirfoddolwyr hyfforddedig a 7,000 o staff cyflogedig sy'n darparu gwasanaeth cynghori i dros 2.7 miliwn o bobl y flwyddyn mewn 3,500 o leoliadau mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys, wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost a sgyrsio ar y we.
Mae yna nifer o resymau i wirfoddoli gyda ni
Mae ein gwirfoddolwyr yn gweld mai prif fanteision gwirfoddoli yn cynnwys:
- • gallu datblygu ac adeiladu ar brofiad, gwybodaeth a sgiliau
- • gwella cyflogadwyedd
- • gwella iechyd a lles yn ogystal â hyder a hunanbarch
- • gallu defnyddio gwybodaeth arbenigol eu hunain
- • cael cyfle i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau
- • dod i adnabod y gymuned leol a rhoi rhywbeth yn ôl
- • gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr a chael effaith gadarnhaol wirioneddol ar fywydau pobl
Rydym angen gwirfoddolwyr yn benodol ar gyfer Bangor a Chaernarfon ond mae gennym swyddfeydd yng Nghonwy, Dolgellau a Phwllheli hefyd.
Mae gennym amryw o rolau i wirfoddolwyr – Ymgynghorydd, Cynorthwy-ydd Gwybodaeth, Cyfryngau a marchnata, Ymchwil ac Ymgyrchoedd a hefyd Llenwyr Ffurflenni.
Yn ddelfrydol, gofynnwn am o leiaf 6 awr yr wythnos, a all fod dros un diwrnod neu rannu dros ddau ddiwrnod, am o leiaf 12 mis. Nid ydym ar agor ar benwythnosau ar hyn o bryd.
Byddwch yn cael cefnogaeth hyfforddiant llawn a costau'n cael eu dalu.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb yma. Neu gallwch anfon e-bost at recruitment.admin@cabconwygwynedd.cymru

