Aelodaeth
Aelodau o’r elusen yn unig sydd â’r hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Rhaid i aelod gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr a rhaid iddo fod yn:
- Unigolyn (dros 18 oed) sydd â diddordeb mewn hyrwyddo gwaith yr Elusen nad yw’n weithiwr cyflogedig na gwirfoddol i’r Elusen; neu
- Cymdeithas gorfforaethol neu gorff anghorfforedig sydd â diddordeb mewn hyrwyddo gwaith yr Elusen
Mae pob aelod o’r Elusen yn ymrwymo i gyfrannu unrhyw swm sy’n ofynnol, heb fod yn fwy na £1, i asedau’r Elusen os dylid ei ddirwyn i ben tra’u bod yn aelod neu o fewn blwyddyn ar ôl iddynt roi’r gorau i fod yn aelod.
Os hoffech chi fod yn aelod llenwch y ffurflen isod:

