Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n bwrdd ymddiriedolwyr i helpu i arwain yr elusen a chefnogi’r tîm rheoli i ddatblygu ein gwasanaethau a sicrhau’r adnoddau hanfodol sydd eu hangen arnom i ateb y galw. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy’n gallu sbario ychydig oriau’r mis ochr yn ochr ag unrhyw rôl neu ymrwymiadau presennol. Yn benodol, rydym ar hyn o bryd yn chwilio am rywun a fyddai’n fodlon cadeirio’r bwrdd gan fod ein cadeirydd presennol Peter Evans wedi bod yn y rôl ers chwe blynedd. Mae Peter yn bwriadu parhau fel ymddiriedolwr a bydd ar gael i’w drosglwyddo’n llawn. I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Cadeirydd, cliciwch yma.
Ein nod yw cael bwrdd amrywiol sy’n cynrychioli ein poblogaeth a phawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Does dim angen sgiliau na phrofiad penodol, ond yn ddelfrydol, bydd ymgeiswyr yn byw, yn astudio neu’n gweithio yn neu gerllaw’r ardaloedd yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein bwrdd yn dod o nifer o wahanol gefndiroedd. Yr hyn maent oll yn ei rannu yw angerdd dros gynrychioli’r gymuned leol a’r amrywiaeth o gleientiaid sy’n elwa o’n cyngor diduedd, am ddim.
Mae hon yn rôl heb dâl, ond caiff holl gostau rhesymol eu had-dalu. Gall rôl fel ymddiriedolwr roi cyfoeth o brofiad a boddhad i chi, cyfle i ddatblygu eich sgiliau, a defnyddio unrhyw arbenigedd neu wybodaeth sydd gennych er budd y gymuned leol.
“Wyt ti’n cael pleser o fod yn ymddiriedolwr?” oedd cwestiwn a ofynnwyd i mi yn ddiweddar. Fe oedais ychydig cyn ateb, a’r rheswm am hynny oedd fy mod yn teimlo nad oedd y gair “pleser” yn disgrifio’n ddigon da beth rwy’n ei gael o fod yn ymddiriedolwr. Mae “boddhad” yn agosach ati.
Mae’r boddhad yn dod o wybod fy mod fel ymddiriedolwr yn cefnogi gwaith elusen sy’n rhoi cymaint o gymorth i aelodau o’n cymdeithas sydd wir angen help, yn arbennig yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae’r amser rwy’n ei roi fel ymddiriedolwr yn cyfrannu at sicrhau bod yr elusen yn parhau’n gynaliadwy, ac yn cefnogi’r staff a’r gwirfoddolwyr sydd yn gweithio’n galed i helpu ein cleientiaid.
Wrth gwrs, rwy’n cael pleser o fod yn ymddiriedolwr! Rwy’n cyfarfod ymddiriedolwyr o wahanol gefndiroedd, mae ein cyfarfodydd yn ddiddorol, ac rwyf yn aml yn dysgu am faterion newydd.
Oes gennych chi ddiddordeb? Ewch amdani, i weld sut y buasech chi’n disgrifio bod yn ymddiriedolwr!
Peter Evans, Cadeirydd
Pwy ydym ni
Mae Cyngor ar Bopeth Gwynedd Citizens Advice yn aelod o rwydwaith Cyngor ar Bopeth o elusennau cynghori annibynnol. Cawn ein cefnogi gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru i ddarparu ar draws sir Gwynedd, ac mae gennym ganolfannau ym Mangor, Caernarfon, Dolgellau a Phwllheli. Rydym hefyd yn cyflawni prosiectau cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru ac Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU. Fe’n cefnogwn gan nifer o gynghorau cymuned yng Ngwynedd ac ymddiriedolaethau elusennol. Darperir ein gwasanaethau gan dîm ymroddedig o staff cyflogedig a gwirfoddolwyr (sylwer na all staff cyflogedig na gwirfoddolwyr hefyd wasanaethu fel aelodau o’r Bwrdd).
Y llynedd, fe wnaeth ein cyngor helpu pobl mewn argyfwng gadw eu gwaith, atal teuluoedd rhag cael eu troi allan o’u cartrefi, helpwyd miloedd o bobl i daclo dyledion llethol, a galluogi pobl i gael mynediad at y budd-daliadau lles y mae ganddynt hawl iddynt.
Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi
Rydym yn awyddus i groesawu pobl o bob cefndir gydag amrywiaeth eang o brofiad wrth inni weithio tuag at gael bwrdd amrywiol sy’n adlewyrchiad o’n cleientiaid a’n cymunedau. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych os oes gennych brofiad neu gymwysterau cyllid, gan fod ein Trysorydd presennol yn ymddeol.
Ewch i cabgwynedd.cymru/amdanom-ni/bwrdd i ddysgu mwy am y rôl neu e-bostiwch gwirfoddoli@cabgwynedd.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau. I wneud cais lawrlwythwch a chyflwynwch y ffurflenni isod:
