{"id":5014,"date":"2026-10-16T12:45:47","date_gmt":"2026-10-16T12:45:47","guid":{"rendered":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/?p=5014"},"modified":"2026-10-16T12:45:47","modified_gmt":"2026-10-16T12:45:47","slug":"colofn-gyngor-mis-hydref-prynu-cerbyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/2026\/10\/16\/colofn-gyngor-mis-hydref-prynu-cerbyd\/","title":{"rendered":"Colofn Gyngor mis Hydref: prynu cerbyd"},"content":{"rendered":"<div class=\"fusion-fullwidth fullwidth-box fusion-builder-row-1 fusion-flex-container has-pattern-background has-mask-background nonhundred-percent-fullwidth non-hundred-percent-height-scrolling\" style=\"--awb-border-radius-top-left:0px;--awb-border-radius-top-right:0px;--awb-border-radius-bottom-right:0px;--awb-border-radius-bottom-left:0px;--awb-flex-wrap:wrap;\" ><div class=\"fusion-builder-row fusion-row fusion-flex-align-items-flex-start fusion-flex-content-wrap\" style=\"max-width:1216.8px;margin-left: calc(-4% \/ 2 );margin-right: calc(-4% \/ 2 );\"><div class=\"fusion-layout-column fusion_builder_column fusion-builder-column-0 fusion_builder_column_1_1 1_1 fusion-flex-column\" style=\"--awb-bg-size:cover;--awb-width-large:100%;--awb-margin-top-large:0px;--awb-spacing-right-large:1.92%;--awb-margin-bottom-large:20px;--awb-spacing-left-large:1.92%;--awb-width-medium:100%;--awb-order-medium:0;--awb-spacing-right-medium:1.92%;--awb-spacing-left-medium:1.92%;--awb-width-small:100%;--awb-order-small:0;--awb-spacing-right-small:1.92%;--awb-spacing-left-small:1.92%;\"><div class=\"fusion-column-wrapper fusion-column-has-shadow fusion-flex-justify-content-flex-start fusion-content-layout-column\"><div class=\"fusion-text fusion-text-1\"><p><strong>Dwi angen prynu car ail-law, ond dwi\u2019n poeni am wneud y dewis iawn. Dwi wedi clywed am bobl sydd wedi prynu ceir \u00e2 diffygion cudd a gostiodd lawer o arian iddyn nhw eu trwsio ac a oedd weithiau\u2019n anniogel. Sut alla i wneud yn si\u0175r fy mod i&#8217;n prynu&#8217;r car cywir, o&#8217;r lle cywir?<\/strong><\/p>\n<p>Mae prynu car ail-law yn benderfyniad mawr, felly rwy\u2019n deall pam rydych chi\u2019n poeni, yn enwedig ar \u00f4l clywed am bethau sydd wedi mynd o chwith gan achosi problemau ofnadwy.<\/p>\n<p>Mae camau y gallwch eu cymryd i osgoi prynu car sydd wedi\u2019i ddifrodi\u2019n ddifrifol, sy\u2019n debygol o dorri i lawr, sydd wedi\u2019i ddwyn neu sydd wedi\u2019i addasu\u2019n anghyfreithlon. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys gwiriadau priodol a all arbed amser ac arian i chi yn y tymor hir. Yn bwysicaf oll, peidiwch \u00e2 rhuthro&#8217;r broses. Mae nifer o fesurau ar waith i\u2019ch cadw\u2019n ddiogel ac i\u2019ch diogelu.<\/p>\n<p>Mae\u2019n well prynu gan fasnachwr (&#8216;trader&#8217;) \u2013 busnes sy\u2019n gwerthu ceir \u2013 na chan werthwr preifat neu mewn arwerthiant. Mae gennych fwy o hawliau cyfreithiol pan fyddwch yn prynu gan werthwr ceir, felly\u2019r cam cyntaf yw sicrhau bod y busnes wedi hen ennill ei blwyf a bod ganddo enw da ac adolygiadau da.<\/p>\n<p>Gallwch wirio a yw\u2019r busnes wedi\u2019i achredu gan yr Ombwdsmon Moduron \u2013 mae\u2019r ombwdsmon yn gorfodi ei godau ymarfer ac yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfodau amgen os bydd rhywbeth yn mynd o\u2019i le. Efallai fod y busnes hefyd yn aelod o gymdeithas fasnach, felly gallwch wirio a yw\u2019r gymdeithas yn cynnig unrhyw gymorth.<\/p>\n<p>Nesaf, dylech chi wirio hanes y car drwy ofyn i\u2019r gwerthwr am wneuthuriad a model y car, ei rif cofrestru, rhif ei brawf MOT a\u2019r milltiroedd y mae wedi\u2019u teithio. <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/cael-gwybodaeth-cerbyd-gan-dvla\">Defnyddiwch wiriwr gwybodaeth cerbydau ar-lein am ddim y DVLA<\/a> i wneud yn si\u0175r bod y manylion hyn yn cyd-fynd \u00e2 chofnodion y DVLA. Os ydych chi&#8217;n amau bod y gwerthwr wedi rhoi manylion ffug i chi, mae&#8217;n well peidio \u00e2 phrynu&#8217;r car.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l hyn, <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/check-mot-history\">dylech wirio hanes profion MOT y car<\/a> ar wefan y llywodraeth. Mae&#8217;n rhad ac am ddim ac yn caniat\u00e1u ichi weld a yw profion MOT wedi&#8217;u cynnal yn rheolaidd drwy gydol hanes y car.<\/p>\n<p>Bydd gwiriad hanes car gan ddarparwr preifat, sy\u2019n costio hyd at \u00a320, yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi am y car, er enghraifft a yw wedi cael ei gofnodi fel car sydd wedi\u2019i ddwyn, a yw wedi bod mewn damwain ddifrifol, neu a yw wedi cael ei ddatgan yn golled lwyr cyn cael ei atgyweirio a\u2019i roi yn \u00f4l ar y ffordd. Bydd hefyd yn dweud wrthych a yw nifer y milltiroedd ar odomedr y car yn gywir.<\/p>\n<p>Yn olaf, archwiliwch y car eich hun, yng ngolau dydd a phan fydd y tywydd yn sych. Dylech fynd \u00e2\u2019r car am reid \u2013 bydd angen i chi sicrhau bod gennych yswiriant ar gyfer gwneud hynny. Os dewiswch brynu gan werthwr preifat, mae\u2019n well archwilio\u2019r car yng nghartref y gwerthwr, fel bod gennych gofnod o\u2019i gyfeiriad os bydd unrhyw beth yn mynd o\u2019i le. Ewch \u00e2 rhywun rydych chi&#8217;n ymddiried ynddo gyda chi hefyd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/cymraeg\/Defnyddwyr\/buying-or-repairing-a-car\/prynu-car-ail-law\/\">Mae gan Gyngor ar Bopeth lawer o wybodaeth ar-lein am brynu car ail-law<\/a>, gan gynnwys canllawiau ar ffyrdd o dalu. Mae\u2019r elusen hefyd yn cynnig canllawiau ar <a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/cymraeg\/Defnyddwyr\/buying-or-repairing-a-car\/problem-gyda-char-ail-law\/\">beth i\u2019w wneud os oes problem gyda char ail-law rydych eisoes wedi\u2019i brynu<\/a>.<\/p>\n<p>Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, gallwch ffonio Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, neu<a href=\"https:\/\/www.citizensadvice.org.uk\/cymraeg\/amdanom-ni\/gwybodaeth\/cysylltwch-an-gwasanaeth-defnyddwyr\/\"> sgwrsio \u00e2 chynghorydd ar-lein<\/a>.<\/p>\n<\/div><\/div><\/div><\/div><\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":1,"featured_media":4287,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_coblocks_attr":"","_coblocks_dimensions":"","_coblocks_responsive_height":"","_coblocks_accordion_ie_support":"","advanced_seo_description":"","jetpack_seo_html_title":"","jetpack_seo_noindex":false,"jetpack_seo_schema_type":"","_wpcom_ai_launchpad_first_post":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[37],"tags":[],"class_list":["post-5014","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymraeg"],"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/pbbqmd-1iS","jetpack_featured_media_url":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/FixedHeaderNews-2e81b337.jpeg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5014","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5014"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5014\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5016,"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5014\/revisions\/5016"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4287"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5014"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5014"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/caconwygwynedd.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5014"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}